Bu’n bum mlynedd ers y cynnig diwethaf oddi wrth y ddeuawd gŵr a gwraig boblogaidd, Kathryn Roberts a Sean Lakeman, ac mae’u halbwm diweddaraf yn ddosbarth meistr mewn cyffro cerddorol a geiriol. Mae ‘Almost a Sunset’, eu seithfed albwm, yn gasgliad o ganeuon meddylgar sy’n amrywio o faledau traddodiadol a ail-driniwyd i’r arddull storïol anarferol a ddaeth yn nodwedd o’u gwaith.
Ers dros chwarter canrif mae partneriaeth Kathryn Roberts a Sean Lakeman wedi bod yn bersonol, yn barhaol ac yn ganolog. O’u dyddiau cynnar yn y siwpergrŵp gwerin ‘Equation’, hyd at eu halbwm newydd, mae’r pâr hwn sydd wedi ennill gwobrau lu, yn parhau i ddangos urddas uwchlaw amser gyda’u dull bendigedig o gerddoriaeth acwstig draddodiadol a chyfoes.
Enillwyr ‘Deuawd Gorau’ Gwobrau Gwerin BBC Radio 2 ddwy waith.
“Cerddoriaeth werin i oes gyfoes”: The Telegraph – Llundain.
“Mae’r rhain yn rhywbeth arbennig iawn” – Cylchgrawn Acoustic.
“Deuawd sydd ar frig eu gêm” – Rock n’ Reel.