Mae Katherine Jenkins wedi cyhoeddi cyngerdd Nadolig yng Nghymru a fydd yn cynnwys gwesteion, sêr ac elfen Gymreig gref
Mae Katherine Jenkins wedi cyhoeddi cyngerdd croeso’n ôl y Nadolig hwn yn Neuadd Brangwyn Abertawe, gan addo sioe unigryw i’w chefnogwyr yng Nghymru.
Gyda chymysgedd o westeion arbennig, caneuon o’i halbwm newydd, Celebration a llond lle o hwyl yr ŵyl, dywedodd Katherine wrth Wales Online y byddai gan y gyngerdd naws Gymreig gref iddi.
Cynhelir y sioe ar 1 Rhagfyr ac esboniodd y gantores, 36 oed, pam mae’n teimlo fod cynnal sioe yng Nghymru’n hanfodol.
“Ni fyddwn yn anghofio am Gymru,” dywedodd wrth ymateb i sïon pan gyhoeddodd ei thaith Celebration yr wythnos ddiwethaf, heb ddyddiad yng Nghymru.
“Roeddwn yn cynllunio rhywbeth mawr. Mae dychwelyd adref ar ôl ymweld â sawl lle arall wrth deithio yn beth gwych,” ychwanegodd.
“Roedd dychwelyd adref i berfformio cyngerdd Nadoligaidd yn golygu bod yn rhaid i mi ddod o hyd i’r lleoliad cywir ger Castell-nedd gan ei wneud yn ddigwyddiad unigryw. Mae Neuadd Brangwyn yn neuadd gyngerdd fendigedig, yn lleoliad hyfryd. Treuliais lawer o amser yno fel merch ifanc yn canu.”
I’r fam i un plentyn, roedd dychwelyd i Gastell-nedd dros y Nadolig yn flaenoriaeth, meddai, “Mae’r Nadolig bob amser yn gyfnod dychwelyd adref, dyna’r un peth sydd byth yn newid. Rwy’n treulio llawer o amser yn ystod y flwyddyn hwnt ac yma.
Bydd treulio Noswyl Nadolig yn Eglwys Dewi Sant yng Nghastell-nedd a theithiau cerdded Gŵyl San Steffan yn y Gnoll yn sicr yn rhan o gynlluniau Katherine eleni, ychwanegodd, “Dwi’n hoff o fynd i’r plygain o hyd, nid yw’n teimlo fel y Nadolig os nad ydw i’n mynd.”
Bydd y tocynnau ar gyfer y cyngerdd ar 1 Rhagfyr yn Neuadd Brangwyn Abertawe ar werth o 4 Mai. Gallwch brynu’r tocynnau o Swyddfa Docynnau’r lleoliad drwy ffonio 01792 637300, neu drwy fynd i Ticketmaster.co.uk, yn Derricks Records Abertawe neu o Ticketline Caerdydd / 01792 637300.
Neuadd Brangwyn: