Dewch i weld seren CBeebies, Justin Fletcher, sy’n boblogaidd iawn gyda phlant bach, yn fyw ar y llwyfan mewn strafagansa llawn caneuon a dawnsio.
Mae Justin Live yn sioe wych ar gyfer y teulu cyfan ac yn llawn caneuon enwog, llawer o ddawnsio, comedi hynod ddoniol a digon o hwyl slapstic!
Mae Justin Fletcher MBE, sydd wedi ennill BAFTA, yn enwog am ei berfformiadau mewn rhaglenni poblogaidd gan gynnwys Something Special, Justin’s House, Gigglebiz and Gigglequiz – ac mae’n dod â’i sioe wych ei hun i’n llwyfan.