Mae’n bennaf adnabyddus fel lleisydd, prif gitarydd a chyfansoddwr ar gyfer The Moody Blues, mae’n dalent parhaus sydd wedi helpu i ddiffinio’r cyfnod y bu’n gweithio ynddo, Dros y pedwar deg pum mlynedd diwethaf, mae’r band wedi gwerthu pum deg pum miliwn o albymau ac wedi derbyn gwobrau niferus.
Mae llwyddiant masnachol wedi mynd law yn llaw â chanmoliaeth gan y beirniaid ac mae The Moody Blues yn adnabyddus ar draws y byd fel arloeswyr sydd wedi dylanwadu ar nifer o gyd-artistiaid. Yn 2018, ynghyd ag aelodau eraill The Moody Blues, cafodd Justin ei dderbyn i’r ‘The Rock And Roll Hall Of Fame’ enwog.