fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae’r Johnny Cash Roadshow yn ôl gyda chynhyrchiad newydd sbon o’u sioe boblogaidd. Lleolir y sioe yng ngharchar Folsom, ac mae’r arobryn Clive John yn talu teyrnged i Cash yn ei ffordd unigryw ei hun, ochr yn ochr â’i wraig June Carter (Meghan Thomas), ac mae cerddorion o’r radd flaenaf sy’n chwarae’r bas dwbl, gitarau Fender Telecaster ac acwstig, drymiau, piano, trwmped ac yn canu harmonïau pedwar llais, yn ymuno ag ef.

Profwch allu amryddawn a dyfnder caneuon diamser Cash wrth iddo ganu’r holl ganeuon ysgubol fel ‘Walk the Line’, ‘Ring of Fire’, ‘Jackson’, ‘Orange Blossom Special’ a ‘Boy Named Sue’ ynghyd â rhai o’r caneuon mwy tywyll a chythryblus o’r albwm hwyrach, American Recordings, fel ‘Hurt’.

Mae Johnny Cash Roadshow, sioe y mae cynulleidfaoedd yn codi ar eu traed i’w chymeradwyo bob nos, yn daith emosiynol drwy yrfa Cash a dyma’r dathliad gorau, mwyaf a mwyaf hirhoedlog o Johnny Cash yn y byd heddiw.

Dyddiad
08 CHWE 2024
Lleoliad
Swansea Grand Theatre
Price
28.50