fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Mae hon yn enwog am fod yn sioe deyrnged wreiddiol a gorau’r Bee Gees, a’r unig sioe deyrnged Bee Gees sydd wedi perfformio gyda’r band gwreiddiol! Ym 1997 perfformiodd Gary a Darren o Jive Talkin yn fyw ar Heart FM gyda’r Bee Gees, a chawsant glod uchel gan Maurice a Barry Gibb….

Yn debyg i grŵp gwreiddiol y Bee Gees, mae Jive Talkin hefyd yn grŵp teuluol, gyda’r brodyr Gary a Darren Simmons yn chwarae rolau Barry a Maurice Gibb, a chyda mab Darren, Jack, yn ymuno â’r grŵp yn 2014 i berfformio rôl Robin Gibb. Cefnogir y perfformwyr yn gerddorol gan fand pedwar aelod, gyda phrif gitâr, ffidl, sielo a drymiau, i sicrhau bod pob nodyn ym mhob cân yn berffaith.

Ym mha le bynnag bydd y grŵp yn chwarae, mae’n derbyn clod uchel; “Mae ansawdd eu lleisiau’n anhygoel” (The Stage), “Yn hynod debyg i’r Bee Gees go iawn” (Wakefield Express), “Arbennig o dda” (Maurice Gibb), “WAW” (Barry Gibb).

I gael profiad arbennig o dda a chyfle i glywed holl ganeuon enwog y Bee Gees, gan gynnwys Tragedy, Night Fever, Massachusetts, Stayin Alive, Jive Talkin etc., ar ffurf perfformiad 2 awr bywiog llawn cerddoriaeth a harmonïau lleisiol, dyma noson na ddylid ei cholli!

Dyddiad
18 MAW 2022
Lleoliad
Swansea Grand Theatre