Albwm a ysbrydolodd chwyldro. Datguddiad a newidiodd y byd. Adfywiad ar gyfer y mileniwm hwn.
Timothy Sheader (Crazy for You, Into the Woods) sy’n cyfarwyddo’r cynhyrchiad newydd hwn o’r ffenomen fyd-eang eiconig, JESUS CHRIST SUPERSTAR sy’n dod i Arena Abertawe ym mis Ebrill! Yn serennu Ian McIntosh (We Will Rock You, Follies, Beautiful: The Carole King Musical) fel Iesu, Shem Omari James (Dreamgirls UK Tour) fel Judas a Hannah Richardson (The Last Ship gan Sting) fel Mary. Wedi’i llwyfannu’n wreiddiol gan Regent’s Park Open Air Theatre yn Llundain, enillodd y cynhyrchiad hwn Wobr Olivier 2017 am yr Adfywiad Cerddorol Gorau.
Wedi’i goreograffu gan Drew McOnie (King Kong, Strictly Ballroom), a gyda cherddoriaeth a geiriau gan yr enillwyr gwobrau niferus Andrew Lloyd Webber a Tim Rice, mae JESUS CHRISTSUPERSTAR wedi’i osod yn ystod yr wythnosau olaf ym mywyd Iesu Grist. Gan adlewyrchu’r gwreiddiau roc a ddiffiniodd genhedlaeth, mae’r sgôr chwedlonol yn cynnwys ‘I Don’t Know How to Love Him’ a ‘Gethsemane’.
2024 © City and County of Swansea