Cwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg
Fel plentyn, mae’r Jane Eyre amddifad yn cael ei haddysg gan gyfres o warcheidwaid llym sy’n mygu ei hafiaith naturiol. Mae rhan ohoni ynghudd, allan o olwg y gymdeithas barchus…. tan iddi gyrraedd cartref Rochester i fod yn athrawes ar ei blentyn ifanc. Cyn hir, mae natur danbaid Rochester yn deffro teimladau cudd Jane, ond mae cyfrinachau tywyll yn llechu yn yr atig…
Ymunwch â chriw WGYTC wrth iddyn nhw berfformio’r addasiad beiddgar ac arloesol hwn o’r clasur llenyddol.