fbpx

Mae’r canwr/cyfansoddwr caneuon sydd wedi cyrraedd brig siartiau’r DU, James Arthur, wedi cyhoeddi ei fod yn dod â’i sioe haf i Abertawe’r haf nesaf, pan fydd yn dod i Barc Singleton ar 18 Gorffennaf, gyda gwesteion arbennig i’w cyhoeddi.

“Beth allai fod yn well na chanu fy nghaneuon yn yr awyr agored ym Mharc Singleton” gwena James Arthur, “I artist, does dim byd yn cymharu â bod yn gallu cysylltu â’ch cynulleidfa, yng ngoleuni’r lloer  – mae’n dod ag awyrgylch gŵyl i’r perfformiad.  Alla i ddim aros. Abertawe, dwi ar fy ffordd.”

Gyda chefndir godidog Parc Singleton fel ei lwyfan, mae James yn addo noson anhygoel o ddawnsio a chaneuon byw dan sêr Cymru wrth iddo ddod a’r caneuon a gyrhaeddodd frig y siartiau i’r llwyfan byw.  Wrth iddo ganu’r holl ffefrynnau gan gynnwys ‘Impossible’, ‘Say You Won’t Let Go’ a ‘You’re Nobody Until Somebody Loves You’, bydd ei gefnogwyr  yn profi noson wedi’i rhannu â James Arthur a gwesteion arbennig, dan oleuni’r lloer, ac yn swatio yn harddwch tiroedd trawiadol Parc Singleton.

Prynnwch tocynnau

Beth am dritio’ch hun i’r tai bach moethus? Mae pawb yn mwynhau’r profiad o gig yn yr awyr agored ond weithiau mae’n braf cael rhai o gysuron cartref… ychwanegwch hyn at eich basged pan fyddwch yn cyrraedd y dudalen tocynnau safonol.    

Nifer y tocynnau y gellir eu harchebu: hyd at 8 y person
Cyfyngiad oedran: dim plant dan 5 oed, rhaid i’r rheini dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn

Hygyrchedd

I brynu tocyn ar gyfer y llwyfan cadeiriau olwyn i chi a chynorthwyydd personol, e-bostiwch accessibility@kilimanjarolive.co.uk.
Nodwch eich enw ac un o’r mathau o dystiolaeth a nodir isod:
– Lwfans Byw i’r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol (derbynnir y dudalen flaen)
– Bathodyn Glas (rhaid darparu’r ddwy ochr)
– Cerdyn mynediad

Os oes angen cynorthwyydd personol arnoch i ddod gyda chi i’r digwyddiad, prynwch docyn Mynediad Cyffredinol i’ch hun yn gyntaf. Ar ôl i chi wneud hynny, e-bostiwch accessibility@kilimanjarolive.co.uk
Cofiwch gynnwys eich cyfeirnod ar gyfer eich archeb Mynediad Cyffredinol, eich enw ac un o’r mathau o dystiolaeth a nodir isod:
– Lwfans Byw i’r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol (derbynnir y dudalen flaen)
– Bathodyn Glas (rhaid darparu’r ddwy ochr)
– Cerdyn mynediad

Dyddiad
18 GOR 2024
Lleoliad
Singleton Park
Archebwch docynnau