fbpx

Nawr bod sioe Cinderella wedi dod i ben, roeddem am godi’ch calon a rhoi gwybod i chi fod tocynnau ar gyfer ein pantomeim ar gyfer 2024/25, Jack and the Beanstalk, eisoes ar werth a bydd ein deuawd gomedi hynod boblogaidd, Kev Johns a Matt Edwards, yn serennu ynddo.

Gwyliwch y fideo isod i weld pa mor gyffrous ydyn nhw.Rhag ofn nad yw’r newyddion am Kev a Matt yn dychwelyd am bantomeim arall yn ddigon cyffrous i chi, bydd gan Jack and the Beanstalk set ddigidol newydd sbon, na welwyd mohono erioed o’r blaen, sydd wedi’i chreu’n arbennig ar gyfer Abertawe.

Efallai fod Nadolig 2024 yn teimlo’n bell i ffwrdd, ond mae amser yn mynd heibio’n gyflym ac mae’r tocynnau ymlaen llaw eisoes yn gwerthu’n gyflymach na’r blynyddoedd blaenorol. Felly manteisiwch ar y cyfle, archebwch docynnau ar gyfer pantomeim gwych arall, a chofiwch rannu’r newyddion am bantomeim Jack and the Beanstalk â’ch ffrindiau!

 

Archebwch Docynnau

Noddwyr gan

Dyddiad
07 RHAG 2024 - 05 ION 2025
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
19.00
Archebwch docynnau