Fel rhywun sy’n gwbl ymroddedig i gadwraeth, mae Iolo wedi defnyddio ei wybodaeth a’i brofiad i annerch y Cynulliad Cenedlaethol, gan brofi’n siaradwr grymus. Ymunwch â ni am noson dan arweiniad Iolo, sy’n gofyn, Beth allwn ni ei wneud i helpu bywyd gwyllt?
Yn ymuno â Iolo mae’r Athro Mary Gagen o Brifysgol Abertawe, sy’n arbenigo mewn newid hinsawdd. Mae gwaith Mary yn archwilio sut mae newid amgylcheddol yn effeithio ar goedwigoedd ein planed.
Bydd y noson yn cynnwys sesiwn holi-ac-ateb gyda’r siaradwyr.