Ymunwch ag Igglepiggle wrth iddo chwilio am ei ffrindiau yn g Ngardd y Nos drwy ddilyn eu synau doniol nes iddo ddod o hyd iddyn nhw.
Cewch weld eich hoff gymeriadau’n dod yn fyw, gyda gwisgoedd maint llawn, pypedau hudol a cherddoriaeth swynol. Mae’r sioe hon yn para ychydig llai nag awr a bydd eich rhai bach yn rhyfeddu pan fydd y Pinky Ponk hedegog anhygoel yn ymweld â nhw.
Mae In the Night Garden Live, sydd bellach yn ei 15eg flwyddyn, yn un o hoff ddigwyddiadau teuluol y DU. Mae dros 1.1 miliwn o bobl wedi’i gweld hyd yn hyn, ac mae’n cael 4.8 seren allan o 5 yn seiliedig ar adolygiadau 13,774 o rieni.
Mae sioeau eraill i blant ifanc, ond yn ôl yr Independent “Does dim byd yn debyg i In the Night Garden Live.”
Pip-pip, onk-onk!