8-23 Ebrill
Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Wrth i’r natur ddechrau deffro yn Aberdulais, byddwch yn sylwi ar yr adar a’r gwenyn yn dechrau dychwelyd. Dewch i weld beth allwch ei weld a chasglwch awgrymiadau ar sut i greu cartref i anifail gwyllt.
Dewch i weld y bwrdd 50 o bethau a chasglwch daflen chwilota am bryfed neu wylio adar, ac ewch i weld beth allwch chi ddod o hyd iddo wrth i chi archwilio.
Mae’r gweithgareddau ar gael bob dydd drwy gydol y gwyliau Pasg (ac eithrio 14-17 Ebrill).
Prisiau mynediad arferol yn berthnasol. Mynediad am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.