WIWEROD, PARATOWCH!
Mae hoff gi cariadus y genedl, Hey Duggee, ar daith am y tro cyntaf ERIOED a dyma’ch cyfle i’w weld! Mae ‘Hey Duggee The Live Theatre Show’ yn mynd i fod yn WYCH a bydd yn cynnwys Duggee a’r wiwerod a llawer mwy o’ch hoff gymeriadau!
Mae Betty am wneud gwisgoedd, mae Happy eisiau canu, mae Tag am greu cerddoriaeth, mae Norrie eisiau dawnsio, mae Roly eisiau jeli ac maen nhw i gyd am i chi ymuno â nhw yn y Clwb! Mae cymaint i’w wneud, ond yn ffodus mae gan Duggee ei fathodyn theatr. Fyddwch chi’n cael eich un chi hefyd? Woof!
Dewch i fod yn rhan o sioe boblogaidd CBeebies ac ymunwch â Duggee a’r wiwerod yn y cynhyrchiad rhyngweithiol bywiog newydd hwn sy’n llawn cerddoriaeth, pypedau a digonedd o chwerthin. Mae cyfres deledu Hey Duggee y BBC a Studio AKA wedi ennill chwe BAFTA a sawl EMMY, felly peidiwch â cholli’r cyfle i weld Duggee yn FYW ar y llwyfan yn y cynhyrchiad newydd cyffrous hwn o’r sioe hynod boblogaidd.
Mae’n bryd i ni gael cwtsh gan Duggee!
Disgrifiad Llofnod – Sadwrn 1.00pm
Perfformiadau Hamddenol Gwener 2.00pm