fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Datryswch y posau yn ein Helfa Basg i gracio’r cod a hawlio gwobr arbennig!

Dewch i drio’n crefftau ciwt a thrawsnewid yn dditectif pedair coes, cyn mynd ar drywydd y cwningod chwareus sy’n cuddio o gwmpas yr Amgueddfa.

Bydd tair her llawn hwyl ar eich cyfer!

1. Datrys y Cod… dim ond trwy ddatrys y cod y cewch chi hawlio’ch gwobr.

2. Gweld y Gwahaniaeth… defnyddiwch eich llygaid craff i weld y gwahaniaeth rhwng gwahanol gwningod yr Amgueddfa.

3. Yr Wy Aur… ac i chi dditectifs gwerth eich halen, allwch chi ddod o hyd i’r wy aur bach iawn iawn sy’n cuddio yn yr amgueddfa?

£3.50 yr helfa – yn cynnwys gwobr siocled (gwobr heb gynnyrch laeth ar gael)

 

Beth ydw i’n ei gael?

Llwybr lliw A3 gyda gweithgaredd crefft
Cyflwyniad Cod QR
Gwobr siocled (ar ôl cwblhau’r llwybr). Gwobr heb gynnyrch laeth ar gael.
Ble ydw i’n cael y llwybr?

Bydd llwybrau ar gael yn siop yr Amgueddfa wrth gyrraedd. Nid oes angen archebu ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn

Gwybodaeth Ychwanegol

Iaith – Mae’r llwybrau’n ddwyieithog.
Oedran – Yn addas ar gyfer plant 4+ oed , efallai y bydd angen help ar blant iau.
Cost – Mae’r gost yn cynnwys un llwybr gydag un wobr. Mae croeso i chi gwblhau un fel teulu neu brynu un ar gyfer pob person.
Mae’r llwybr ar gael ym mhob un o safleoedd yr Amgueddfa Genedlaethol ac mae’r un peth ar bob safle : Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.
Lle bo’n bosibl, rydym wedi defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a byddwn yn defnyddio’r rhain eto.
Nifer o lefydd gyfyngedig bob dydd – y cyntaf i’r felin.

Dyddiad
15-18 EBR
Lleoliad
National Waterfront Museum
Visit website