Mae Gerddi Clun yn eu Blodau yn ddathliad blynyddol o rododendronau ac asaleâu arobryn Gerddi Clun pan fyddant yn eu blodau llawn ac ar eu mwyaf godidog gyda rhaglen arbennig o droeon tywys, gweithdai, gweithgareddau i’r teulu a pherfformiadau cerddorol byw.
28 Ebrill, 10am -12pm
Cwrdd: Bydd pawb yn cwrdd y tu allan i garafán The Touring Tea Room yng Ngerddi Clun, Blackpill, Abertawe, SA3 5BW
-Dewch â sbienddrychau
-Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
-Gadewch eich cŵn gartref
-Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a’r dirwedd
-Efallai bydd y llwybr yn cynnwys llethrau serth a grisiau
Cyflwynir Gerddi Clun yn eu Blodau i chi gan Gyfeillion Clun ar y cyd â The Touring Tea Room a chydag arian gan Gronfa’r Loteri.
Rhagor o wybodaeth
Gweld digwtddiadau eraill yn Gerddi Clun yma