Pleser enfawr yw cyflwyno lansiad Gwyl Ymylol Abertawe eleni o’r Neuadd Brangwyn hanesyddol. Rydym wedi gwrando arnoch chi, ac rydym wedi dod â ffefrynnau’r ŵyl ymylol gyntaf, sef Afro Cluster, yn ôl i agor yr ŵyl eleni mewn steil.
Yn ogystal â hyn, bydd rhai o sêr byd cerddoriaeth Cymru yn ymuno â nhw ar y noson, gan gynnwys selogion Glastonbury a Gŵyl Green Man, Zervas & Pepper, Buzzard Buzzard Buzzard o Gaerdydd, sydd newydd orffen cefnogi Noel Gallagher‘s High Flying Birds a gwefreiddio set Soccer AM, a ffefrynnau Swansea Music Hub a Horizons / Gorwelion, sef Bandicoot.
Beth? Dim yn ddigon?
Beth am gynnwys digonedd o berfformiadau barddoniaeth lafar mwareddog hyfryd ar eich cyfer? Peidiwch â phoeni, mae gennym ddigon ar eich cyfer. Bydd rhagor o newyddion ynghylch hyn ar gael yn fuan…
Rydym hefyd wrthi’n llunio cipolwg ar yr artistiaid y byddwch yn eu clywed dros y penwythnos, a gallwch chi well ychydig o berfformiadau byw, agos, arbennig ar y noson er mwyn codi awydd arnoch am y wledd yr ydym wedi’i threfnu sydd ar y gweill.
Gallwch ddisgwyl digonedd o giamocs yr ŵyl ymylol, gweithgareddau celf a mwy o fwyd a diod na allwch chi fwyta mewn noswaith, i ddathlu’r achlysur sy’n addas i bob oedran.
Bydd rhagor o wybodaeth am holl firi’r noswaith yn cael ei chyhoeddi’n fuan.
Tocynnau
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Ymylol Abertawe 2019 gyfan, sydd hefyd yn cynnwys Archarwyr yn Sgwâr y Castell a CGG y BBC: Rhestr Chwarae Glasurol: Yn fyw.