Gŵyl Pêl-droed Traeth Abertawe
09.30am – 18:30pm
Dydd Sadwrn 8 Gorffennaf 2017
Cynhelir y 4edd ŵyl pêl-droed traeth flynyddol yn Chwaraeon Traeth a Dŵr 360, Bae Abertawe, ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf 2017.
Trefnwyd yr ŵyl nid er elw hon gan aelodau gwirfoddol ymrwymedig a brwdfrydig y pwyllgor. Eu gweledigaeth yw darparu gŵyl pêl-droed traeth hygyrch sy’n canolbwyntio ar y gymuned, ac sy’n hyrwyddo Abertawe fel canolfan ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau.
Mae ffïoedd mynediad i dîmau yn isel er mwyn sicrhau bod yr ŵyl yn ariannol hygyrch i’r gymuned gyfan – rydym yn dibynnu ar noddwyr i sicrhau llwyddiant a chynaladwyedd yr ŵyl.
Gellir cofrestru nawr!
5-pob-ochr, uchafswm o 10 chwaraewr, heb gyfyngiad ar eilyddion
Chwaraewr iau (Dan 6 oed – dan 14 oed) = £10 fesul tîm ac oedolyn (14+ oed) = £20 fesul tîm.
Cliciwch yma i gofrestru’ch tîm heddiw!
Chwaraeon Traeth a Dŵr 360: