fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Rhedeg llwybrau, ond mewn ffordd go wahanol.

Cynhelir digwyddiadau rhedeg llwybrau yn ystod Gŵyl Love Trails ar lwybrau gwledig ac arfordirol Penrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) ddynodedig a gwarchodedig gyntaf y DU.

Yn ystod y dydd gallwch fwynhau anturiaethau rhedeg llwybrau nad ydynt yn gystadleuol, teithiau i’r traeth, sesiynau sy’n llesol i’r corff a’r meddwl, anturiaethau awyr agored, sgyrsiau ysbrydoledig, bwyd blasus a detholiadau o gerddoriaeth hamddenol. Gyda’r nos, bydd pedwar llwyfan yn cynnal detholiad o gerddoriaeth fyw a pherfformiadau gan DJs a fydd yn eich cadw chi’n dawnsio o dan y sêr tan oriau mân y bore.

Gan nad yw’r digwyddiad yn gystadleuol, (heblaw am y Daith o Dafarn i Dafarn does dim rasys yng Ngŵyl Love Trails) mae‘r digwyddiadau rhedeg llwybrau yng Ngŵyl Love Trails yn rhai cymdeithasol, llawn hwyl ac mae’r pwyslais ar gael y profiad gorau posib wrth redeg! Gallwch ymuno ag anturiaethau rhedeg llwybrau dan arweiniad, rhedeg llwybrau ar hyd cyrsiau sydd wedi’u marcio, profiadau rhedeg nad oes angen cadw lle ar eu cyfer neu anturiaethau ychwanegol ar draws y penwythnos. Mae dwsinau o rediadau wedi’u trefnu sy’n dechrau o 5km hyd at farathonau eithafol, felly mae rhywbeth i bawb.

Dyddiad
11-14 GOR
Lleoliad
Gower

11-14 GOR

Gŵyl Love Trails

00:00am - 00:00am