Am dros ddeugain mlynedd, mae Gŵyl Gŵyr wedi dod â cherddoriaeth o’r ansawdd uchaf i’n hardal ni yn ne-orllewin Cymru. Unwaith eto, yn ystod pythefnos cyntaf Gorffennaf, maent yn gwahodd cerddorion o fri rhyngwladol i chwarae yn awyrgylch ac acwsteg fendigedig ein heglwysi hynafol.
Dewch o hyd i’r hyn sydd ar ddod yng ngŵyl eleni, ac archebwch docynnau ar gyfer pob digwyddiad.
4 Gorffennaf, 7.30pm – Archebwch nawr
Eglwys Sant Pedr, Newton SA3 4RB
Yng nghyngerdd gyntaf eu cyfnod preswyl yng Ngŵyr, bydd y London Conchord Ensemble yn perfformio pumawd poblogaidd Schubert, Pumawd ‘Y Brithyll’ ynghyd a’r Seithawd Mawr yn D leiaf gan un o gyfoedion hŷn Schubert sef Hummel, gyda’i ysgrifennu meistrolgar ar gyfer y piano.
Dydd Mawrth 5 Gorffennaf, 2.30pm – Archebwch Nawr
Eglwys San Siôr, Reynoldston SA3 1AA
Dan y teitl diddorol ‘Mythau a Straeon Tylwyth Teg’, bydd y Conchord Ensemble yn chwarae cerddoriaeth gan Rossini, Britten, Debussy a Mozart. Dewch i fwynhau’r straeon a’r arddulliau a lliwiau offerynnau cyferbyniol!
Nos Fercher 6 Gorffennaf, 7.30pm – Archebwch Nawr
Eglwys yr Holl Saint, Ystumllwynarth SA3 4BZ
Rhaglen benigamp o gerddoriaeth ar gyfer offerynnau chwyth a llinynnau. Dilynir Noned Martinu, gyda’i hadleisiau o’i famwlad, Bohemia, gan Noned ramantus yn F gan Louis Spohr, ac yna seithawd poblogaidd Beethoven.
Nos Iau 7 Gorffennaf, 7.30pm – wedi’i werthu
Eglwys y Santes Fair, Pennard SA3 2EA
Datganiad a darlith gan yr arweinydd ysbrydoledig a’r athro llinynnau, David Watkin, sy’n taflu goleuni ar fywyd a cherddoriaeth Bach. Bydd sgwrs David, sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer ei recordiadau o Bach, yn un eang, yn fentrus ac yn ddifyr.
Nos Wener 8 Gorffennaf, 7.30pm – Archebwch Nawr
Eglwys yr Holl Saint, Ystumllwynarth SA3 4BZ
Datganiad caneuon gan y bariton ifanc neilltuol James Atkinson, sy’n canu ar hyn o bryd yng nghynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o Don Giovanni. Mae ei raglen yn cynnwys un o’r cylchoedd o ganeuon mwyaf rhamantus erioed sef Schumann’s Dichterliebe (Cariad Bardd). Uchafbwynt yng ngŵyl eleni.
Nos Sadwrn 9 Gorffennaf, 7.30pm – Archebwch Nawr
Eglwys Sant Pedr, Newton SA3 4RB
Mae Pavel Kolesnikov, un o ffefrynnau cynulleidfaoedd Gŵyr, yn un o bianyddion mwyaf sensitif a gwreiddiol ei genhedlaeth. Yn ei ddatganiad, mae’n cyfleu cerddoriaeth gan Schubert, Schumann a Chopin mewn ffordd newydd. Noson na ddylech ei cholli.
11 Gorffennaf 7.30pm – Archebwch Nawr
Eglwys Sant Cynydd, Llangynydd SA3 1HU
Mae Andrey Lebedev, a swynodd cynulleidfaoedd Gŵyr yn 2018, yn dychwelyd gyda’r canwr acordion Pwylaidd ifanc gwych, Bartosz Głowacki. Mae blas Sbaenaidd/America Ladin i’w rhaglen sy’n cynnwys cerddoriaeth gan Rodrigo, Piazzolla, Villa-Lobos ac Ernesto Nazareth.
Nos Fawrth, 12 Gorffennaf, 7.30pm – Archebwch Nawr
Eglwys Sant Paul, Sgeti SA2 9AR
Mae Triawd Sitkovetsky, Alexander Sitkovetsky (feiolin), Isang Enders (sielo) ac Wu Qian (piano) a ganmolir yn helaeth am eu perfformiadau ‘calonogol’ sy’n ‘berffaith’ ar gyfer yr achlysur, yn dychwelyd i Ŵyl Gŵyr. Caiff eu rhaglen ei chadarnhau a’i chyhoeddi ar y wefan yn fuan.
Nos Fercher 13 Gorffennaf, 7.30pm – Archebwch Nawr
Eglwys Sant Paul, Sgeti SA2 9AR
Bydd Alim Beisembayev, enillydd y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Biano nodedig Leeds ym mis Medi 2021, yn perfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Gŵyr ac yn perfformio Sonata Piano Chopin Rhif 2 ‘Yr Ymdeithgan Angladd’ a cherddoriaeth gan Haydn a Liszt.
Nos Iau 14 Gorffennaf, 7.30pm – Archebwch Nawr
Eglwys Rhidian Sant ac Eglwys Illtud Sant, Llanrhidian SA3 1ER
Cyfle prin i glywed pumawd telynegol Syr Arthur Bliss ar gyfer clarinet a llinynnau ynghyd â chyn gampwaith Brahms ar gyfer yr un offerynnau. Bydd Robert Plane, prif glarinetydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ymuno â’r pedwarawd llinynnol clodfawr, Pedwarawd Elias.
Nos Wener 15 Gorffennaf, 7.30pm – wedi’i werthu
Eglwys Catwg Sant, Porth Einon SA3 1NL
Bydd Pedwarawd Elias yn perfformio dau o ddarnau gorau’r repertoire pedwarawd llinynnol: Pedwarawd Haydn yn G, Op. 54/1, a Phedwarawd Stormus Mendelssohn yn A leiaf, Op. 13, teyrnged y cyfansoddwr ifanc i hen bedwarawdau Beethoven.
Nos Sadwrn 16 Gorffennaf, 7.30pm – Archebwch Nawr
Neuadd Bentref Reynoldston SA3 1AA
Noson o farddoniaeth a jazz wedi’u dylanwadu gan ardal Gŵyr ac yn cynnwys yr actorion Melanie Walters a Bob Pugh (yn amodol ar amserlenni ffilmio) gyda cherddoriaeth gan y pianydd jazz poblogaidd, Geoff Eales a’i Driawd.