Ar ôl tair blynedd o hoe, mae Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn (CAMRA) Abertawe yn falch o ddod â Gŵyl Cwrw a Seidr Bae Abertawe yn ôl i Neuadd Brangwyn.
Bydd gennym dri bar gyda thros 100 o gyrfau go iawn o bob rhan o’r DU, ac un arall gyda thros 50 o seidrau a gellygwinoedd go iawn.
Wrth fwynhau eich diodydd, cewch eich serenadu gan gerddoriaeth fyw gan amrywiaeth o fandiau lleol ar y dydd Gwener a’r dydd Sadwrn, ac ar nos Iau bydd cyfle i flasu rhai o’r cyrfau a’r seidrau mwyaf anghyffredin mewn awyrgylch tawelach.
Cost mynediad: £7.00, sy’n cynnwys rhaglen a gwydryn hanner peint 18+ oed yn unig.
Nos Iau 31 Awst 5pm tan 11pm
Dydd Gwener 1 – dydd Sadwrn 2 Medi, Hanner dydd tan 11pm
Derbynnir arian parod a chardiau