Date: 10/08/2018 – 24/08/2018
Time: All Day
Lleoliadau amrywiol
Mae Gŵyl Bwytho Abertawe’n dychwelyd ar gyfer 2018.
Bydd yr ŵyl yn strafagansa gyffrous arall o arddangosfeydd, sesiynau rhagflas o sgiliau am ddim, marchnad dros benwythnos ar gyfer gwneuthurwyr a masnachwyr a dosbarthiadau meistr gan artistiaid enwog.
O 10 Awst tan 24 Awst, bydd yr holl gelf tecstilau orau’n cael ei harddangos yn Abertawe…
Dydd Sadwrn 18 a dydd Sul 19 Awst
Bore 10am tan 12pm | Prynhawn 2pm tan 4pm
Cynhelir sesiynau yng nghanol dinas Abertawe ac maent am ddim.
Cymerwch gip ar dudalen Facebook a thudalennau blog Swansea Festival of Stitch am fwy o wybodaeth.
Bydd Amgueddfa Abertawe’n cynnal dosbarthiadau meistr yr ŵyl yn ystod y dydd.
Eleni mae’r ŵyl yn cyflwyno rhaglen ragorol o ddosbarthiadau dan arweiniad rhai o artistiaid a thiwtoriaid mwyaf clodwiw’r DU.
Bydd y technegau a ddangosir yn amrywio o shibori traddodiadol i archwilio dylunio arwynebedd gan ddefnyddio’r amgylchedd naturiol.
Cost y gweithdai yw £30 y diwrnod neu £60 am weithdy 2 ddiwrnod. Am ragor o wybodaeth, ewch i swanseafestivalofstitch.co.uk/masterclasses
Cynhelir Marchnad Gwneuthurwyr a Masnachwyr 2018 ar 18 ac 19 Awst yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a bydd unwaith eto’n llawn tecstilau gwych o Gymru, gyda’r ychwanegiad cyffrous o fasnachwyr eleni hefyd! Bydd cyflenwyr edeifion, gwlanoedd a ffabrigau yn y farchnad hefyd.
Dewch i fwynhau cymysgedd gwych o grefftwyr gorau Cymru ac amrywiaeth eang o fasnachwyr diddorol. Am ragor o wybodaeth, ewch i swanseafestivalofstitch.co.uk
Drwy gydol yr ŵyl gallwch fwynhau arddangosfeydd gan grwpiau tecstilau a chwiltio o Abertawe ac o’i chwmpas.
Cynhelir yr arddangosfeydd rhwng 10 a 24 Awst:
18 ac 19 Awst | Y Brif Neuadd, LC Abertawe
Bydd arddangosfa’r Quilt Expo yn cynnwys cymysgedd o gwiltiau traddodiadol a chyfoes.
Yn ogystal, bydd arddangosfa o gwiltiau hynafol a rhai gan Mothers of Africa.
Hefyd bydd gan wneuthurwyr les arddangosfa o waith les a bydd cyfle i roi cynnig ar wneud les.
Os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos yn y Quilt Expo eleni, cysylltwch â-
mdennis.wales@gmail.com | 07811 159800
10am – 4pm
Dros yr ychydig wythnosau nesaf, bydd Gŵyl Bwytho Abertawe’n cynnal 6 gweithdy tecstilau am ddim yn Hobbycraft, Fforest-fach:
14 Ebrill – Cwiltio Creadigol gyda Robi
28 Ebrill – Cwiltio Modern Bach gyda Shirley
12 Mai – Tynnu llun pobl gyda’ch peiriant gwnïo gyda Lesley
26 Mai – Cwiltio â Pheiriant Rhydd gyda Dian
9 Mehefin – Printio ‘Gelli’ ar bapur a defnydd gyda Sandra
23 Mehefin – Ffeltio Gwlyb gyda Fiona
Mae gweithdai am ddim a bydd y tiwtor yn darparu’r holl ddeunyddiau angenrheidiol. Nid oes angen dod ag unrhywbeth.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly mae’n hanfodol cadw lle – e-bostiwch robi.thomas@btinternet.com i gadw lle.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan yr ŵyl swanseafestivalofstitch.co.uk
Gallwch gael yr holl newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf am yr Ŵyl Bwytho drwy fynd i flog yr ŵyl.