fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Oes gennych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, anabledd dysgu, corfforol neu ddeallusol? Dewch i gymryd rhan yng Ngŵyl Arbennig Abertawe 2018!

P’un a ydych yn fabolgampwr cystadleuol, neu’n chwilio am ychydig o hwyl a ffordd hamddenol o ddechrau arni, mae gennym amrywiaeth o gategorïau rasys a chystadlaethau, gan wneud Gŵyl Arbennig Abertawe yn ddelfrydol i chi.

10 Gorffennaf – cystadleuaeth nofio, Pwll Cenedlaethol Cymru
11 Gorffennaf – cystadleuaeth athletau, Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Prifysgol Abertawe

Mae digon o gyfleoedd i gymdeithasu hefyd ar y trac rhedeg ac oddi arno, gydag amrywiaeth o adloniant gyda’r hwyr ar 9, 10 ac 11 Gorffennaf, gan gynnwys bowlio deg, cerddoriaeth fyw a noson garaoce!

Mae’r digwyddiad hwn yn addas i bawb ag anableddau corfforol, dysgu a deallusol. Rydym yn categoreiddio rasys yn ôl lefelau gallu, sy’n golygu bod pawb yn cael cyfle teg i ennill medal. Rydym yn derbyn ceisiadau gan oedolion a phlant, ac rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod awyrgylch hamddenol a chyfeillgar yn yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Bydd yr holl gyfranogwyr yn cael tystysgrif, a bydd medalau ar gyfer y tri cyntaf ym mhob cystadleuaeth.

I gymryd rhan, e-bostiwch y tîm yn special.events@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 635428 i gael pecyn cais!

COFNODION CAU: Dydd Mercher 13 Mehefin 2018

Dyddiad
10 GOR 2018
Lleoliad
Swansea University International Sports Village