Arddangosfa Glynn Vivian.
Ystafell 9
Wrth iddo aros, nes iddo ddod i ben
Enillydd Gwobr Artist Ifanc Syr Leslie Joseph 2017 yw Bob Gelsthorpe. Mae Gelsthorpe yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Mae’n gweithio ar draws cyfryngau gan gynnwys perfformiad, ffotograffiaeth a cherflunwaith. Ysbrydolir yr arddangosfa hon gan hen gist offer ei ddiweddar dad-cu ac mae’n archwilio syniadau o lafur a chof.
Cynhelir Gwobr Artist Ifanc Syr Leslie Joseph bob yn ail flwyddyn, ac fe’i hariennir gan Gyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian drwy rodd hael gan y diweddar Syr Leslie Joseph. Mae’r wobr yn agored i artistiaid ifanc drwy’r DU gyfan sydd wedi derbyn rhan o’u haddysg yng Nghymru. Mae’r wobr yn cynnwys cyfle gwych i artist ifanc gael ei arddangosfa unigol gyntaf mewn oriel gyhoeddus. Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys Will Nash, Tomas Lewis, Richard Monahan a Heather Phillipson.
Llun: Bob Gelsthorpe, Llun o wawn i lawr y ffordd hon nes iddi droi o liw i ddu a gwyn (II), 2017