fbpx

Dydd Gwener 5 Ebrill, 10am i 12pm

Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy’n niwrowahanol.

Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy creu mygydau anifeiliaid 3D difyr!

Yn y gweithdy hwn byddwn yn creu mygydau 3D cerfluniol ar thema anifeiliaid sydd wedi’u hysbrydoli gan rai o’r anifeiliaid a’r adar sy’n ymddangos yng ngwaith Dylan Thomas, gan gynnwys cadnoid, tylluanod a theigrod. Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy.

Gall uchafswm o 24 person ddod i’n gweithdy. Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/swansea/dylan-thomas-centre

Dyddiad
05 EBR 2024
Lleoliad
Dylan Thomas Centre
Ffôn
01792463980
E-bost
dylanthomas.lit@swansea.gov.uk