fbpx

Dydd Gwener 29 Mawrth, 1pm – 4pm

Ymunwch â ni am weithgaredd creadigol ac ymarferol, i ddysgu sut i wneud papur blodau gwyllt sydd ychydig yn wahanol i’r arfer!

Byddwch yn gwneud papur, yn ychwanegu eich cerdd unigryw wedi’i dorri’n ddarnau, yna’n ysgeintio cymysgedd o hadau blodau gwyllt a dyfwyd yn lleol ar ei ben! Gallwch ei roi yn rhodd neu blannu’ch papur blodau pan fyddwch yn cyrraedd adref. Bydd staff ychwanegol wrth law i gefnogi teuluoedd ag anghenion synhwyraidd gwahanol i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn.

Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy.

Sylwer bod lle i uchafswm o 35 person mewn gweithdai. Os yw’n brysur pan fyddwch yn cyrraedd, mae gweithgareddau am ddim i’w gwneud yn ein harddangosfa nes bod lle ar gael ar y gweithdy.

Galw heibio, am ddim.

Dyddiad
29 MAW 2024
Lleoliad
Dylan Thomas Centre
Ffôn
01792463980
E-bost
dylanthomas.lit@swansea.gov.uk