Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy creu mygydau anifeiliaid 3D difyr! Yn y gweithdy hwn byddwn yn creu mygydau 3D cerfluniol ar thema anifeiliaid sydd wedi’u hysbrydoli gan rai o’r anifeiliaid a’r adar sy’n ymddangos yng ngwaith Dylan Thomas, gan gynnwys cadnoid, tylluanod a theigrod. Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy.
Galw heibio, am ddim.