fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Dydd Gwener 16 Chwefror, 10am i 12pm

Mae’r gweithdy hwn wedi’i ddylunio ar gyfer teuluoedd y mae angen profiad gweithdy mwy tawel arnynt.

Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy creu mygydau anifeiliaid 3D difyr! Yn y gweithdy hwn byddwn yn creu mygydau 3D cerfluniol ar thema anifeiliaid sydd wedi’u hysbrydoli gan rai o’r anifeiliaid a’r adar sy’n ymddangos yng ngwaith Dylan Thomas, gan gynnwys cadnoid, tylluanod a theigrod. Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy.

Gall uchafswm o 24 person ddod i’n gweithdy. Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/swansea/dylan-thomas-centre.

Mynediad am ddim.

Dyddiad
16 CHWE 2024
Lleoliad
Dylan Thomas Centre
Ffôn
01792463980
E-bost
dylanthomas.lit@swansea.gov.uk
Visit website