Ymunwch â ni yr haf hwn wrth i’n gweithdai ar thema ‘Holiday Memory’, sy’n addas i deuluoedd, ddychwelyd i Ganolfan Dylan Thomas. Yn ein gweithdy cyntaf byddwn yn gwneud llyfrau nodiadau a llyfrau lloffion i’w cadw. Bydd amrywiaeth o lyfrau gwahanol i’w gwneud sy’n addas i ystod o oedrannau ac arddulliau. Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad. Os nad oes lle ar gael yn syth ar ôl cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i’w mwynhau yn ein lle arddangos.
Mae’r gweithdy hwn yn fwyaf addas ar gyfer teuluoedd, o 5 oed i oedolion. Mae ardal weithgareddau hefyd ar gael ar gyfer plant iau.
Galwch heibio 1pm – 4pm
Mynediad am ddim.