fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Dydd Gwener 4 Awst, 1pm – 4pm

Mae ein gweithdy creu dyddlyfr ‘Holiday Memory’ poblogaidd yn dychwelyd i Ganolfan Dylan Thomas! Gan ddwyn ysbrydoliaeth o ddarllediad radio poblogaidd Dylan, ‘Holiday Memory’, byddwn yn creu dyddlyfrau gyda phocedi dirgel, tudalennau sy’n plygu allan ac amlenni cudd er mwyn casglu’ch hoff atgofion a straeon o’r haf.

Mae’r gweithdy hwn fwyaf addas i deuluoedd â phlant 7+ oed, mae croeso i blant iau ond efallai y bydd angen cymorth ychwanegol gan riant/warcheidwad i gwblhau’r gweithgaredd.

Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.

Mae lle i 35 o bobl yn ein man gweithdy. Os nad oes lle ar gael yn syth pan fyddwch yn cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i’w harchwilio yn ein harddangosfa.

Galw heibio, am ddim.

Dyddiad
04 AWS 2023
Lleoliad
Dylan Thomas Centre
Ffôn
01792463980
E-bost
dylanthomas.lit@swansea.gov.uk
Visit website