fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Mae Birds of Gaza yn brosiect celf cymunedol rhyngwladol sy’n gwahodd pobl i wneud aderyn er cof am blentyn a laddwyd yn Gaza.

Yn y gweithdy hwn byddwch yn cael cyfle i wneud aderyn (origami neu dorri o batrwm) ac yna ei addurno gyda collage. Mae hwn yn gyfle i fyfyrio ar yr hyn sy’n digwydd ym Mhalesteina ac i rannu’r meddyliau hynny. Drwy collage gallwch weld pa emosiynau sy’n codi i’r wyneb. Mae Birds of Gaza yn ffordd o dystio i alar ac o fynegi ein galar gyda’n gilydd. Mae creu’r adar hyn yn weithred sy’n arwydd o undod ac mae’n ffordd o anrhydeddu plant Gaza.

Cefndir yr artistiaid: Fy enw i yw Bori (hi/ei) ac rwy’n anthropolegydd ac yn artist cymunedol, ac rwy’n rhan o Swansea Creatives for Palestine – grŵp bychan sy’n defnyddio digwyddiadau celf a diwylliannol i godi ymwybyddiaeth am Palesteina. Mae croeso i bawb, waeth beth fo’ch gallu artistig, os ydych chi’n creu arlunwaith, yna rydych chi’n artist!

Archebwch Docynnau

 

Gweld digwyddiadau eraill yn Theatr Volcano yma