fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

11am – 4.30pm

Crëwch rywbeth hudol!

O greaduriaid hudol neu anifeiliaid y goedwig i bysgod rhyfedd, dewch draw i fwynhau gweithdy clai creadigol gyda’r darlunydd lleol David Marchant o Bulljam Gallery yn y Mwmbwls.

Yn ogystal â chael llawer o hwyl, byddwch yn derbyn cyngor ar greu modelau clai bach â llaw, defnyddio sticeri ac adeiladu modelau.

Bydd gweithdai’n cael eu cynnal drwy’r dydd (11.15am, 12:15pm, 1.30pm, 2.30pm a 3.30pm) a byddwch yn gallu mynd â’ch campweithiau adref gyda chi.

Mae croeso i oedolion a phlant | Tâl mynediad arferol yn berthnasol – gweithdai £1 am bob person.

Dyddiad
13 EBR 2019
Lleoliad
Castell Ystumllwynarth