fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Yn agor ar 18 Tachwedd, bob dydd Sadwrn a dydd Sul 12pm – 6pm

Beth am ymweld â Siôn Corn yn ein groto a dewis eich anrheg eich hun o Weithdy’r Coblynnod? Bydd pob plentyn yn cael y cyfle i gwblhau ei lythyr Nadolig personol cyn ei roi i’r dyn ei hun pan fydd yn ymweld â’r groto. Wedi hynny, bydd y plant yn mynd i Weithdy’r Coblynnod lle gallant ddewis unrhyw anrheg a ddymunant o’r amrywiaeth o deganau hyfryd sydd ar gael. Pan fyddwch yno, beth am gael eich

Bwyd Ceirw Siôn Corn neu Fisgedi Noswyl Nadolig yn barod ar gyfer y diwrnod mawr?

Tocynnau: £7.95 (fesul plentyn)

Gallwch osgoi’r ciwiau drwy gadw lle ar y dyddiad o’ch dewis ac archebu’ch tocyn yma.

Nid oes rhaid i deuluoedd mawr golli cyfle ’chwaith! Os ydych yn cadw lle ymlaen llaw ar-lein ar gyfer ein Groto Nadolig, byddwch yn derbyn 25% oddi ar y pris drwy archebu tocynnau ar gyfer tri phlentyn neu fwy.

Awr Dawel Groto Siôn Corn

Ym Mhier y Mwmbwls, rydym am sicrhau y gall pob plentyn fwynhau ymweliad â Groto Siôn Corn. I lawer o blant sydd ag awtistiaeth, gall ymweliad â Groto Siôn Corn fod yn gymysgedd frawychus o dyrfaoedd mawr a synau swnllyd. Felly rydym wedi penderfynu lansio Awr Dawel Groto Siôn Corn – clustnodir awr yn y bore cyn i’r tyrfaoedd ddod i mewn pan fyddwn yn troi’r gerddoriaeth i lawr ac yn pylu’r goleuadau er mwyn gwneud Groto Siôn Corn yn llai brawychus fel y gall pob plentyn fwynhau hud y Nadolig. Byddwn yn gwerthu nifer cyfyngedig o docynnau ar gyfer yr oriau hyn felly mae cadw lle ymlaen llaw yn hanfodol.

Awr a glustnodir lle bydd amseroedd aros byrrach a cherddoriaeth dawelach yw Awr Dawel Groto Siôn Corn. Mae’r sesiynau hyn yn agored i unrhyw un ag anabledd gwybyddol, synhwyrol neu gorfforol.

Cliciwch yma i brynu’ch tocyn

Dyddiad
18 TACH - 23 RHAG
Lleoliad
Mumbles Pier