Mae’r arddangosfa hon yn olrhain bywyd rhyfeddol y cenhadwr enwog o Abertawe, Griffith John, a aeth i Tsieina ym 1855 gan aros am dros 50 o flynyddoedd.
Teithiodd yn eang ar hyd y wlad lle’r oedd yn boblogaidd iawn, gan sefydlu ysgolion, ysbytai a cholegau.
Mae’r arddangosfa hon yn diweddaru ei etifeddiaeth gan gynnwys deunydd a gasglwyd yn 2016 yn ystod cyfranogiad Amgueddfa Abertawe yn nathliadau canmlwyddiant a hanner Ysbyty’r Undeb yn Wuhan a sefydlwyd gan Griffith John.
Ar agor ddydd Mawrth i ddydd Sul, ac ar wyliau banc, rhwng 10am a 5pm.