Cofrestrwch nawr i fod yn rhan o’r orymdaith agoriadol Glynn Vivian arddydd Sadwrn 15 Hydref, sy’n nodi dechrau penwythnos cyffrous o ddathliadau agoriadol.
I gofrestru eich diddordeb, ewch i ticketsource neu ffoniwch yr Oriel ar 01792 516900.
Mae’r Oriel wedi bod yn gweithio gyda deg o artistiaid i baratoi Gorymdaith Agoriadol fawreddog i groesawu pawb yn ôl i’r Glynn Vivian ac i’r adeilad newydd.
Rydym yn eich gwahodd i wisgo i fyny, cario baneri a hyd yn oed roi cynnig ar un o’n barf crosio Richard Glynn Vivian.
Bydd y cyfranogwyr sy’n cymryd rhan yn yr Orymdaith Agoriadol Glynn Vivian fod yn un o’r cyntaf i fynd i mewn i’r Oriel newydd a chael profiad o’r adeilad newydd am y tro cyntaf erioed.
Ar ddydd Sadwrn 15 Hydref dylai cyfranogwyr gyrraedd am 10yb i gasglu eu gwisgoedd ac i gymryd eu lleoedd yn yr orymdaith. Bydd yr orymdaith yn dechrau o’r YMCA, Abertawe rhwng 11 a 11.30yb.
Peidiwch â cholli eich cyfle i gymryd rhan a helpu i ddathlu ailagor Oriel Gelf Glynn Vivian. Archebwch eich lle yn yr orymdaith yn awr.
Pob oedran, croeso i bawb. Rhaid cadw lle.
Gwnewch yn siŵr bod plant o dan 10 yng nghwmni oedolyn.
Gofynnir i gyfranogwyr i wisgo’n addas ar gyfer y tywydd.