Enillodd gystadleuaeth Strictly Come Dancing yn 2021 a gwobr BAFTA a bydd yn cyrraedd y llwyfan unwaith eto gyda’i gwmni o ddawnswyr o’r radd flaenaf.
Bydd Giovanni, y maestro dawns o’r Eidal, yn serennu ar y llwyfan yn ystod ‘The Last Dance’, cynhyrchiad gwefreiddiol sy’n chwalu rhwystrau perfformiadau byw.
Gyda gyrfa llawn angerdd, ymroddiad a chelfyddydwaith digyffelyb, mae Giovanni bellach yn enw cyfarwydd iawn, gan adlonni cynulleidfaoedd ar draws y byd gyda’i berfformiadau cyffrous a’i garisma unigryw.
Peidiwch â cholli taith ‘Last Dance’ Giovanni yn 2025.