Mae’r ffefryn o Strictly Come Dancing, Giovanni Pernice, ar daith gyda’i sioe newydd!
Bydd y dawnsiwr yn goleuo’r llwyfan ynghyd â’i gast o ddawnswyr proffesiynol yn ei bedwaredd flwyddyn o deithio.
Gyda swyn naturiol a choreograffi hyfryd yr Eidalwr, sydd wedi’u hategu gan drac sain gwych, mae This Is Me yn deyrnged i gerddoriaeth a dawnsiau y maent wedi ysbrydoli gyrfa Giovanni, o fod yn ddawnsiwr sy’n cystadlu i fod yn un o enwau mwyaf y sioe boblogaidd ar BBC.
Byddwch yn barod i weld eich hoff ddawnsfeydd neuadd a Lladin-Americanaidd a mwy…
Dawnsiwr, perfformiwr… Giovanni Pernice – This Is Me.
Gwybodaeth am y digwyddiad Cwrdd a Chyfarch VIP
Mae’r digwyddiad Cwrdd a Chyfarch yn cynnwys cwrdd â Giovanni am lun a llofnod, yn ogystal â phrint â llofnod.
Cynhelir i digwyddiad Cwrdd a Chyfarch 90 munud cyn i’r sioe ddechrau (6.00pm). Mae’n rhaid i ddeiliad tocynnau VIP gyrraedd o leiaf 10 munud cyn i’r digwyddiad Cwrdd a Chyfarch ddechrau. Efallai na fydd unrhyw un sy’n hwyr yn cael ei dderbyn.