Mae’n bryd paratoi ar gyfer un noson fythgofiadwy o roc glam!
Gan y cynhyrchwyr a ddaeth â’r sioe ysgubol ‘Lost in Music’ i chi!
Ferched a bechgyn, dewch i rocio wrth i ni gyflwyno’r sioe roc glam fwyaf mewn cenhedlaeth.
Dathliad o oes euraidd, yn fyw ar lwyfan. Y gwisgoedd, y colur, y gerddoriaeth.
Does dim byd tebyg i’w gael! Felly dewch â’ch traed teigr ac ymunwch â ni am noson unigryw.
Byddwn yn eich cludo nôl i gyfnod llawn lliw a chyffro!
Gyda’r caneuon mwyaf poblogaidd gan T.Rex, Mud, Slade, Bowie, Suzi Quatro, Wizzard, Sweet a llawer mwy.
Dewch i brofi’r cyffro a gwisgwch i greu argraff ar gyfer sioe fwyaf hwyliog y flwyddyn.
Sioe deyrnged yw hon ac nid yw’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag unrhyw artistiaid gwreiddiol/ystadau/gwmnïau rheoli neu sioeau tebyg.
Mae gan yr hyrwyddwr yr hawl i newid y rhaglen.