fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Gyda ffrindiau fel hyn, pwy sydd am wylio’r teledu? PIVOT!

Mae Friends! The Musical Parody yn dathlu ac yn gwneud hwyl am ben hynt a helyntion y grŵp o ffrindiau yn eu hugeiniau o’r rhaglen deledu hynod boblogaidd wrth iddynt wynebu anawsterau gwaith, bywyd a chariad ym Manhattan yn y 1990au.

Mae Friends! The Musical Parodyyn cynnig cipolwg calonogol ar ein hoff eiliadau o’r rhaglen deledu boblogaidd mewn cynhyrchiad hynod ddoniol a bywiog heb ei sensro sy’n llawn cerddoriaeth.

Nid yw Ross, Chandler, Monica, Phoebe, Joey na Rachel wedi diflannu o’n golwg eto, ac maent yn canu ac yn dawnsio’u ffordd yn ôl i galonnau pawb yn Friends! The Musical Parody, wrth i’r sioe gerdd sy’n dychanu’r comedi teledu poblogaidd fynd ar ei daith gyntaf o gwmpas y DU ac Iwerddon. Byddwch chi’n chwerthin! Byddwch chi’n crio! Byddwch chi’n bloeddio Unagi!

Mae’n ddiwrnod arferol yn unig siop goffi Efrog Newydd, Central Perk, tan i briodferch ar ffo gyrraedd a newid sefyllfa’r gang cyfan!

Dyddiad
04 MAW 2022
Lleoliad
Swansea Grand Theatre