Mae’n bleser gan Gyfeillion Gwaith Copr yr Hafod-Morfa gyhoeddi eu hamserlen o deithiau tywys AM DDIM ar y safle ar gyfer tymor 2024. Cynhelir y daith dywys gyntaf ddydd Sadwrn 25 Mai am 11.00am a bydd yn para 2 awr. Gwisgwch esgidiau fflat, cadarn gan y byddwn yn cerdded ar rai arwynebau graean. Does dim rhaid cadw lle a byddwn yn cwrdd yn y maes parcio bach gyferbyn â safle Parcio a Theithio Glandŵr SA1 2JT, lle mae lleoedd parcio fel arfer ar gael am £1.
25 Mai 2024
11:00am - 13:00pm
27 MEH 2024
18:00pm
27 GOR 2024
11:00am - 13:00pm
31 AWS 2024
11:00am - 13:00pm
28 MED 2024
11:00am - 13:00pm