Pan fydd ei ffrindiau i gyd yn mynd i ffwrdd, mae Norman Price yn penderfynu dod o hyd i antur ym Mhontypandy a dod yn seren syrcas sy’n ymweld â’r pentref. Ond gyda theigr yn rhydd a goleuadau diffygiol, mae’r antur yn troi’n berygl. A all Sam Tân achub y dydd ac achub y syrcas?
Ymunwch â Sam, Penny, Elvis, Prif Swyddog Steele a Norman mewn sioe llawn antur, canu a dawnsio . Gallwch ddod yn Gadet Tân ac yna gwylio hud y syrcas.
Felly, dewch draw i Bontypandy i weld yr anturiaethau’n datblygu!