Pan fydd ei holl ffrindiau’n mynd i ffwrdd, mae Norman Price yn penderfynu canfod antur ym Mhontypandy a dod yn seren y syrcas sy’n ymweld â’r pentref. Ond gyda theigr yn rhydd a goleuadau diffygiol, mae’r antur cyn bo hir yn troi’n berygl. A all Sam Tân ddod i’r adwy ac achub y syrcas?
Ymunwch â Sam, Penny, Elvis, Swyddog Steele a Norman mewn sioe sy’n llawn antur, dawnsio a chanu. Gallwch chi ddod yn ddiffoddwr tân cadét a gwylio hud y syrcas.
Felly dewch draw i Bontypandy a gwyliwch yr antur yn datblygu.