fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Yn syth o’r West End yn Llundain, dyma’r dathliad mwyaf poblogaidd o George Michael yn y byd!

Nid oes llawer o sioeau sydd wedi cyrraedd poblogrwydd Fastlove, sydd bellach ar daith mewn 18 o wledydd, lle gwerthwyd 250,000 o docynnau ar draws y byd. Ymunwch â ni ar gyfer noson arbennig iawn wrth i ni ddathlu’r ddiweddar George Michael. Dewch i greu atgofion newydd wrth ail-fyw’r hen glasuron – dyma sioe ar gyfer pawb sy’n dwlu ar George Michael wrth i ni ddathlu un o gerddorion gorau’r erioed, a dweud diolch!

Mae gan y sioe y cyfan, pŵer, emosiwn a thalent, oll mewn cynhyrchiad gyda sioe fideo a golau llawn, wrth i ni ail-greu’r trac sain i’ch bywyd yn barchus. Bydd yn cynnwys yr holl ganeuon poblogaidd, o Wham! drwy gydol ei yrfa lwyddiannus gan gynnwys Wake Me Up, Too Funky, Father Figure, Freedom, Faith, Knew You Were Waiting, Careless Whisper a llawer mwy! Fastlove:ar gyfer y bobl sy’n dwlu ar George Michael.

Sioe deyrnged yw hon ac nid yw’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag unrhyw artistiaid gwreiddiol/ystadau/gwmnïau rheoli neu sioeau tebyg. Mae gan yr hyrwyddwr yr hawl i newid y rhaglen.

Archebwch Docynnau

Dyddiad
23 TACH 2024
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
33.00
Archebwch docynnau