Gan gynhyrchwyr Seven Drunken Nights – The Story of The Dubliners,gallwch ymgolli yn holl agweddau cyfoethog diwylliant Iwerddon yn y gyngerdd odidog hon wrth i’n cantorion, ein cerddorion a’n dawnswyr dawnus berfformio holl ffefrynnau’r ŵyl gan gynnwys ‘Driving Home for Christmas’, ‘Step Into Christmas’, ‘Oh Holy Night’ ac wrth gwrs, ‘The Fairytale of New York’.
….ac wrth i chi feddwl nad oes modd rhagori ar hyn, mae’r caneuon Gwyddelig mwyaf poblogaidd erioed i’w cyd-ganu yn cael eu perfformio yn y gyngerdd arbennig hon, gan gynnwys ‘The Galway Girl’, ‘The Irish Rover’, ‘Dirty Old Town’ a ‘The Black Velvet Band.’
Dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau i rannu llawenydd yr ŵyl gyda noson fythgofiadwy o ganu, dawnsio a chwerthin. Dychmygwch barti Dydd Sant Padrig….ar ddydd Nadolig!