Paratowch ar gyfer y sioe hynod hwyliog sy’n dathlu cerddoriaeth y cantorion enwog Lionel Richie a Diana Ross.
Mae Endless Love sy’n cynnwys cast syfrdanol ac sy’n llawn clasuron Motown a chaneuon poblogaidd bythol fel ‘I’m Coming Out’, ‘Dancing On The Ceiling’, ‘Upside Down’, ‘Say You Say Me’, ‘Chain Reaction’ a llawer mwy, yn sioe drydanol, llawen ac emosiynol sy’n siŵr o wneud i chi eisiau codi ar eich traed i ddawnsio!
Mae’r sioe hon sydd wedi’i chynhyrchu’n wych yn cyfleu glits, swyn a theimladau caneuon serch arbennig mewn modd penigamp, gyda chynulleidfaoedd yn rocio i glasuron yr 80au ac yn dawnsio i ganeuon poblogaidd y lloriau dawns. Mae’n noson wych na fydd unrhyw un sy’n dwlu ar gerddoriaeth am ei cholli.