Mae Emilio wedi ennill pencampwriaethau Ewrop a’r Byd fel Elvis ac fe syfrdanodd wylwyr America’s Got Talent pan ymddangosodd yn rownd derfynol 2022.
Mae Emilio, gyda chymorth ei fand byw ei hun, The Creoles, yn dathlu blynyddoedd iau Elvis mewn steil aruthrol. Gwisgwch eich ‘Blue Suede Shoes’ a pharatowch i gael eich cyffroi gyda’r caneuon roc a rôl mwyaf ysgubol a fu erioed gan gynnwys All Shook Up, Jailhouse Rock, Devil in Disguise, Can’t Help Falling in Love, Hound Dog, Always on My Mind a llawer mwy.