fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Elmer the Patchwork Elephant, Sioe Fyw

Yn seiliedig ar y gyfres glasurol o lyfrau i blant gan David McKee ac yn dathlu ei Phen-blwydd yn 30 oed yn 2019, mae sioe Elmer the Patchwork Elephant yn ddathliad o hunaniaeth unigryw a grym chwerthin!

Fel mae pawb yn gwybod, mae eliffantod yn fawr, mae ganddynt drynciau ac maent yn llwyd. Ond mae Elmer yn glytwaith o liwiau’r enfys! Mae ei bersonoliaeth hwyliog a llawen yn cadw pawb yn llon, nes y diwrnod lle mae’n blino ar fod yn wahanol ac yn ceisio ymdoddi â’r haid.

Mae sioe Elmer The Patchwork Elephant yn cynnwys ymddangosiadau gan lu o 21 bypedau annwyl ac yn adrodd stori eliffant sy’n amlwg iawn – gyda’i groen amryliw a’i synnwyr digrifwch – ond sy’n sylweddoli yn y pen draw fod ei ffrindiau erioed wedi gwerthfawrogi ei nodweddion unigryw.

Neges gynnil y sioe yw mai bod chi eich hun sydd orau bob tro, ac wedi’i gyfuno â lliwiau bywiog a digrifwch drygionus y prif gymeriad, mae Elmer yn sioe wych i blant o bob oedran.

Am oedran 1+

Hyd y perfformiad: 45 munud

Nos Fawrth 30 Ebrill 1.30pm & 4.30pm

www.elmertheshow.com

Facebook: @elmerthepatchworkelephant

Dyddiad
30 EBR 2019
Lleoliad
Taliesin Arts Centre