Mwynhewch ŵyl ddawns rhad ac am ddim yr haf hwn yn Abertawe!
Unwaith eto, mae Taliesin yn dod â pherfformwyr o’r radd flaenaf ynghyd o bob rhan o’r DU a thu hwnt, gan ddawnsio ochr yn ochr â grwpiau dawns cymunedol Abertawe.
Eleni rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi penwythnos arall yn llawn dop o berfformiadau gan berfformwyr lleol a chenedlaethol. Byddwn ni yng nghalon y ddinas ac yn dychwelyd i leoliad poblogaidd Amgueddfa’r Glannau gan ddod ag amrywiaeth fwy nag erioed o berfformiadau i chi.
Traddodiadol a chyfoes, syrcas ac awyrol, bydd gan ein rhaglen o berfformiadau dawns ar gyfer 2024 rywbeth at ddant pawb, a chyfle i weld perfformiadau o safon aruchel yn hollol rad ac am ddim.
Mae’r rhagorol Can Do Hub, a Chwmni Dawns Ieuenctid y Sir, yn perfformio ochr yn ochr â Kitsch & Sync Collective, Birdgang Ltd, Cymdeithas Ddawns Prifysgol Abertawe, Highly Sprung a chymaint mwy yn arlwy cyffrous gŵyl Abertawe ar gyfer 2024.
Mae Dyddiau Dawns Abertawe bellach yn rhan anhepgor o’ch calendr haf, ac eleni rydyn ni’n falch o groesawu perfformiad gan Rwydwaith Cerddorion Ifanc Abertawe, partneriaeth dan arweiniad ieuenctid ar draws y ddinas. Dewch i weld yr artistiaid ifanc hyn a fydd yn perfformio yn rhai o’n lleoliadau pop-yp cŵl.
Ewch i’r wefan i weld y rhaglen lawn ar gyfer 2024 ar 1-2 Mehefin, ac am ragor o wybodaeth am yr ŵyl a RhCIA.
Eleni yn cynnwys Luminarium – Timisien. Mewn digwyddiad cyntaf i Abertawe, bydd y Luminarium yn glanio ar Lawnt yr Amgueddfa yng nghanol y ddinas fel rhan o Ddathliadau Deugain-mwlyddiant Canolfan y Celfyddydau Taliesin a’r Ŵyl Dyddiau Dawns flynyddol.
Mwy o wybodaeth: wefan Taliesin