fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Ar-lein ac ar garrech eich drws

Mae Abertawe yn un o ddinasoedd cyntaf y Deyrnas Unedig i ymuno â rhwydwaith dawns byd-eang, ac mae’n dod â dawns fyw yn ôl yr haf hwn gyda Dyddiau Dawns, wrth i Barciau Brynmill a Ravenhill gynnal perfformiadau dawns am ddim ar draws dau benwythnos ym mis Gorffennaf! Ochr yn ochr â pherfformiadau byw, mae Taliesin hefyd yn cynnal rhaglen hynod Dyddiau Dawns Digidol o berfformiadau a gweithdai i bob oed, y gall unrhyw un eu dilyn gartref fel bod pawb yn cael ymuno yn yr hwyl.

Am y tro cyntaf, mae Dyddiau Dawns yn cael ei gynnal ar draws tri phenwythnos ym mis Gorffennaf, i gael mwy o hwyl a mwy o gyfleoedd i beidio â methu dim! Dyma’r ail flwyddyn i Taliesin ymestyn ei rhaglen drwy gyflwyno fersiwn ar-lein, ddigidol o Dyddiau Dawns.

Bydd y rhaglen ddigidol ar gael i’w gwylio drwy gyfrwng gwefan Taliesin, ac ar y dudalen Facebook neu’r sianel YouTube.

Mae’r cyfuniad gwefreiddiol hwn o arddulliau dawns, sy’n cael eu dwyn ynghyd ar-lein o 3 Gorffennaf ymlaen, ac mewn lleoliadau gwahanol o amgylch Abertawe 10-11 Gorffennaf a 24-25 Gorffennaf yn addas i bob oed a chynulleidfa – bydd yna rywbeth i bawb ei fwynhau. Ac mae AM DDIM!

Mae’r holl wybodaeth, y manylion archebu a thaflen y gallwch ei lawrlwytho ynghyd ag amserlen a map ar gael ar-lein yn www.taliesinartscentre.co.uk/dancedays. Neu gallwch gysylltu â Chanolfan Celfyddydau Taliesin ar 01792 60 20 60.

Bydd mesurau ar waith i sicrhau bod amodau’r ŵyl oherwydd COVID-19 yn ddiogel ac yn bleserus i’r gynulleidfa. Cyfyngir ar y niferoedd a gaiff ddod i weld y sioeau a bydd gofyn cael tocyn. Bydd seddi a fydd wedi’u gosod ar bellter cymdeithasol ar gael i’r gynulleidfa.

Dyddiad
03-25 GOR