Mae Sweeney Entertainments yn cyflwyno: Dreams of Fleetwood Mac
Un o sioeau teyrnged gorau, a mwyaf dilys yn ôl rhai, y DU i Fleetwood Mac.
Band o berfformwyr proffesiynol, profiadol a dawnus sydd wedi dod at ei gilydd i ail-greu sain, edrychiad a naws y band enwog ei hun yw UK Fleetwood Mac. Mae perfformiadau’r saith aelod proffesiynol o’r band i gyd yn fyw ac yn bur, ac maent yn ymroddedig i gyflwyno sioe sydd mor debyg â phosib at y peth go iawn!
Mae sioe Dreams of Fleetwood Mac yn ail-greu edrychiad a sain go iawn y band yn llwyddiannus, ac mae pob sioe yn cael ei phortreadu gyda’r brwdfrydedd, y parch a’r egni y mae’r band enwog yn eu haeddu.